back to
Sbrigyn Ymborth
We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Clawdd Eithin / Adenydd

by Cowbois Rhos Botwnnog

/
1.
2.
Adenydd 03:41

about

Bydd albym newydd gan Cowbois Rhos Botwnnog allan yn 2024 ar label Sbrigyn Ymborth, y gyntaf ers 2016. Mae llawer o’r caneuon a fydd arni yn ymwneud â Phen Llŷn, lle magwyd ni, a chartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae hi wedi bod mor braf gallu gweithio ar gerddoriaeth hefo’n gilydd eto, ac er nad oedden ni wedi bwriadu cymryd saib mor hir, mi fydd wyth mlynedd wedi pasio ers y ddiwethaf - rhy hir i ni, a rhy hir i’n gwrandawyr debyg. Felly dyma’n comeback record, am wn i, a dechrau cyfnod newydd yn ein hanes ni fel band.

Ond cyn hynny, mae dwy gân oddi arni i'w clywed yn barod:

Clawdd Eithin, ar gael 18/7/23 - crhb.bandcamp.com/track/clawdd-eithin
“Dyma gân am fy mhlentyndod, cân am Ben Llŷn, sydd wedi bod ar fy meddwl i’n aml dros y blynyddoedd diwethaf gan nad ydw i’n byw yno bellach. Mae hon yn un o’r caneuon a ddaeth i mi yn gyflawn mwy na heb, yr alaw a’r geiriau, ac mae hi’n fynegiad o ryw deimlad sydd wedi bod yn codi ynof ers tro - dw i’n mynd yn fwy hiraethus wrth fynd yn hŷn mae’n rhaid!”

Adenydd, ar gael 26/7/23 - crhb.bandcamp.com/track/adenydd
“Mae hon yn gân am ddau beth ar unwaith. Ar un lefel, mae hi’n gân serch, ond ar lefel arall, mae hi’n ymwneud â’r broses o ysgrifennu, a’r teimlad o fethu â chanfod y geiriau iawn - rhywbeth sydd wastad wedi bod yn broblem i mi, a’r prif reswm ein bod ni mor araf yn rhyddhau pethau newydd! Mae hi’n fwy canu gwlad na’r rhan fwyaf o bethau da ni wedi’u gwneud, sydd wedi bod yn braf, ‘da ni gyd yn caru canu gwlad, ond dyma’r tro cyntaf i fynd ‘full country’ ers ‘Paid â Deud’ nôl yn 2008!”

Bydd y ddau drac ar gael ar y gwasanaethau ffrydio ar XX/X/23

Gigs:
7/8   Gigs Cymdeithas yr Iaith, Nanhoron, Nefyn
8/8       Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol
11/8  Llwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol

Taith ac albym i ddilyn yn 2024.

credits

released July 26, 2023

Iwan Glyn Hughes - llais, gitar, banjo, organ geg (vocal, guitar, banjo, harmonica)

Dafydd Rhys Hughes - drymiau (drums)

Aled Wyn Hughes - bas, llais (bass, vocal)

Branwen Haf Williams - llais (vocal)

Euron Jones - gitar ddur bedal (pedal steel guitar)

Gethin Griffiths - Hammond, piano, Rhodes

---

Recordiwyd yn (Recorded at)

Stiwdio Sain

license

all rights reserved

tags

about

Cowbois Rhos Botwnnog Wales, UK

shows

contact / help

Contact Cowbois Rhos Botwnnog

Streaming and
Download help

Redeem code

Report this album or account

Cowbois Rhos Botwnnog recommends:

If you like Cowbois Rhos Botwnnog, you may also like: