Get all 7 Cowbois Rhos Botwnnog releases available on Bandcamp and save 40%.
Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality downloads of Mynd â'r Tŷ am Dro, Yn Fyw! Galeri Caernarfon, Clawdd Eithin / Adenydd, IV, Draw Dros y Mynydd, Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn, and Dawns y Trychfilod.
1. |
Clawdd Eithin
04:37
|
|||
Mi ges i ‘ngeni mewn clawdd eithin,
ac am eiliad, fi oedd Llŷn,
dim ond am ennyd, rhyw bryd cyn hyn,
ro’n i’n ysgeintiad glas a melyn,
clyw ‘mhlentyndod ar hyd y caeau,
clyw ‘mhen-blwydd i yn yr haf,
clyw rhyw oes pan o’n i yna,
yn dân yn y bryniau, yn dân ddiwedd haf.
Wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn,
a finna’n amau bod y byd ‘na wedi mynd,
wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn.
Mae’r plu yn heidio yndda’ i heno,
a’u hofnau’n hefru trwy fy llaw,
yn plygu ‘mraich, tra ‘mod i’n cysgu
a’n danfon fy nghorff i draw dros y bae,
a wnest ti ymestyn tuag ata’i,
ynta ai ond y gwynt a drodd rhyw dro,
a’m rhoi ar ddamwain yn dy freichia',
a’m gadael i yna, hyd byth ar ben dy lôn?
Wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn,
a finna’n amau bod y byd ‘na wedi mynd,
wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn,
fel rhywbeth wedi’i adael ar ei hanner,
rhywbeth a dorrodd yn dy law,
rhywbeth wedi’i adael ar ei hanner.
Wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn,
a finna’n amau bod y byd ‘na wedi mynd,
wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn.
|
||||
2. |
Mynd â'r Tŷ am Dro
05:28
|
|||
Faint sydd ‘di mynd?
‘Ddim bob dim, dw i’m yn meddwl.’
Faint sydd ar ôl,
oes 'na rywun wedi dwyn y swyddfa bost?
Ga’i warchod y tŷ,
rhag ofn y daw ‘na rywun draw rhyw dro a mynd â fo?
‘Chos ro’n i am ddod draw ar ôl i mi ddod yn ôl,
i roi bob dim mewn car a mynd i lawr at y môr, a deud:
‘Mi fydd bob dim yn iawn yn y diwedd,
ac mi gei di fod yn llonydd eto.’
Ac os ca’i gyfle i fynd, cyn i bob dim droi’n rhywbeth arall,
mi a’i â bob dim i lawr y lôn gul at y môr, eu dal nhw’n dynn a deud:
‘Mi fydd bob dim yn iawn yn y diwedd,
ac mi gei di fod yn llonydd eto.’
Wyt ti’n gweld ble dw i’n mynd â chdi?
|
||||
3. |
Defodau
02:59
|
|||
Mae ‘na rwbath wedi newid,
ond alla i ddim dweud be,
dw i ‘di troi’n rhywbeth newydd,
wedi symud o fy lle,
ac mae’r un a oedd ar ei gythlwng,
a’n gollwng ei flawd lli’,
mae o wedi ffoi, cyn i mi droi,
ers symud atat ti.
A dw i’n synnu ar sut mae’n digwydd, dim ond cwrdd a dyna ni,
ond ti’n dewis dilyn llwybr wrth ymroi yn llwyr i’r lli.
Dw i’n dysgu gin ti, cariad,
yn dysgu mwy a mwy,
dw i ‘di clymu rhuban ar y gwynt,
Duw a ŵyr i bwy,
a dwi’n disgwyl y bydda i’n deall
pob un wefr sy’n symud trwy
ein llinynnau ni, y rheiny sy’
yn canu trwy bob clwy’.
A dw i’n teimlo’r holl ddefodau a oedd yn segur am rhy hir
‘mond am ennyd fach yn symud eto trwydda' i,
a dw i’n teimlo’r peth yn digwydd, y cwrdd a’r ‘dyna ni’,
ond ti’n dewis dilyn llwybr wrth ymroi’n llwyr i’r lli.
|
||||
4. |
Halltu'r Dydd
05:11
|
|||
Roedd heddiw’n ddiwrnod mor braf,
dw i’n mynd i’w ladd o a’i rowlio fo mewn halen,
mae gin i ffydd yn fy ngallu i halltu’r dydd
a gwneud iddo fo bara am byth,
ond neith o’m digwydd yn syth,
maen nhw’n gorfod sychu
a dim ond wedyn gawni hongian y gorau o do'r gegin.
Ac ar y teils oddi tanynt
‘da ni’n dau’n mynd i’r gwynt yn ara’,
yn gadael hoel yn yr halen lle’r oedd ein gwadna’.
Heddiw’n ddiwrnod mor braf,
ni’n dau yn y gasgen o siwgr a halen,
ni’n dau’n trin y briw yn y cig byw,
yn gwneud iddo bara am byth,
ni’n dau’n leinio’r nyth,
ni’n dau’n codi, a ni’n dau wedyn
yn hongian y gorau o do'r gegin.
Ac ar y teils oddi tanynt
‘da ni’n dau yn mynd i’r gwynt yn ara’,
yn gadael hoel yn yr halen, yn gadael hoel yn yr halen.
|
||||
5. |
Adenydd
03:41
|
|||
Yr un hen eiriau’n troi o hyd,
blino trio eu dal ynghyd,
a oeddet ti'n disgwyl mwy gen i,
chdi a fu'n disgwyl hyn mor hir?
Wel dw i yma'n fyddar ac yn fud,
bron na alla i wneud dim byd,
dim ond chwilio geiriau sy’ ddim am ddod,
ella nad o’n nhw gin i erioed.
Mae'r tŷ yn wag, a ti ar drai,
be ddigwyddodd i ni’n dau?
Ai’r holl ddyddiau hir a syn
o wylio’n gras ni’n gwisgo’n ddim?
Dw i'n chwilio hoel dy hanes di,
ym mhob man y buom ni,
chwilio llefydd sy' ddim yn bod,
llefydd na fues i ‘rioed.
O ran ni’n dau, ro’n i’n meddwl,
waeth pa le’r ai, y bysa ti yno o 'mlaen i,
ond erbyn hyn ti ddim, ti di mynd, fy ffrind,
a dw i ar dân,
o fflamau gwan i ddim byd ond lludw gwyn.
Dw i’n teimlo rhan ohona’ i’n mynd,
ar adenydd sydd bron â gwisgo’n ddim,
a’r holl bobol y gallwn fod, i ti,
ella nad rheini fydda i byth, i ti.
|
||||
6. |
Trosol
02:22
|
|||
Bora braf, dim byd yn bod,
jyst disgwyl car sydd byth am ddod,
oeddet ti’n meddwl byswn i’n dy gyrraedd di mewn pryd?
Cofio siarad rhyw bryd cyn
i’n sgyrsia’ ni fynd yn betha’ prin,
oes gen ti fwy i’w ddweud am hyn i gyd?
‘Chos mae pethau’n troi ar y rhod,
ac os ti’m yn barod i fynd, ti dal yn gorfod dod.
At ein gliniau yn y baw,
dw i’m angen caib, ti’m angen rhaw,
da ni’m angen llaw, waeth pa mor gry’,
'chos dw i ‘di gweld ein bod ni’n dau mor sownd
fel na chawn ni’n dau wneud dim nes down
o hyd i drosol sy’n ddigon mawr i’n symud ni.
‘Chos mae pethau’n troi hefo’r rhod,
ac os ti’m yn barod i fynd, ti dal yn gorfod dod.
|
||||
7. |
Magl
04:00
|
|||
Mi wnes i osod magl,
a dal llwynog bach mor goch â’r haul yn y bora,
ond do’n i ddim yn hela,
do’n i ond yn chwarae bach bod yn heliwr
yn rhywle, yn y Taiga, yn y gaea’.
Datod traed a dwylo,
clymu’r gwyll a’r gwawn
yn becyn ar y set gefn.
‘Wyt ti’n gynnes?’
‘Wyt ti’n iawn?’
‘Ydi’r car yn glyd?’
Dw i’n gweld dy wyneb yn y drych,
y trwyn bach yn s’nwyro wrth y ffenast,
yn y bagiau a’r pecynnau gwag i gyd,
yn gweld y byd am y tro cyntaf un,
a’n treiglo’n syth, fel dŵr trwy ‘nwylo i.
Nathon ni osod magl,
a chael ein dal gan rywbeth bach,
gweld ein hanes, ond am eiliad,
yn mynd fel cysgod dros ei wyneb.
Datod traed a dwylo,
clymu’r gwyll a’r gwawn
yn becyn ar y set gefn.
‘Wyt ti’n gynnes?’
‘Wyt ti’n iawn?’
‘Ydi’r car yn glyd?’
Dw i’n gweld dy wyneb yn y drych,
y trwyn bach yn s’nwyro wrth y ffenast,
yn y bagiau a’r pecynnau gwag i gyd,
yn gweld y byd am y tro cyntaf un,
a’n treiglo’n syth, fel dŵr trwy ‘nwylo i.
|
||||
8. |
Cyrraedd Glan
02:00
|
|||
Fe ddois i o wlad arall
lle mae’r geiriau’n gân i gyd,
a’r wawr yn fyw gan dwrw’r nos,
a’r nod ar ei thraed o hyd:
fe ddois i dros y gorwel
heb undim yn fy sach
ond pecyn o freuddwydion
ac ambell gusan fach:
fe ddois i cyn i’r awel
ddymuno bore da,
a chyn i haul y dwyrain
droi’r môr yn hufen ia:
fe ddois i fel dieithryn
yn ôl i ngwlad fy hun,
a cheisio ail adnabod
y lliwiau yn y llun:
ac o gyfeiriad arall
o’r tu chwith fel tae,
cyrhaeddais Memphis a Graceland
a Boston yn y bae.
|
||||
9. |
Blodau Haearn Blodau Glo
04:49
|
|||
Twrw pymtheg mil o ddynion,
tân y ffwrnais, tiwn y ffydd,
agor drysau i armagedon,
pan mai’n ganol nos mai’n ganol dydd,
dynion haearn dynion glo.
Mae’r tipiau’n wastad ac yn wyrdd,
a’r ffyrdd yn llawr o flodau,
ond mae’r sawl sy’n dod a blodau blin
yn fy nghofio i’n dodda
er mwyn yr haearn er mwyn y glo.
N’ad fi’n angof yn fan hyn,
gwerthwyd fi am arian drwg,
ond mae c’lonnau clên y ffermydd gwyn
yn dal i fod fel colomennod yn y mwg,
ac yn yr haearn ac yn y glo.
Mynd i’r ardd i dorri pwysi,
pasio rhosys cochion bras,
pasio’r lafant, pasio’r lili,
a thorri pwysi o ddanadl poethion cas,
blodau haearn blodau glo
|
Cowbois Rhos Botwnnog recommends:
If you like Cowbois Rhos Botwnnog, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp