back to
Sbrigyn Ymborth
We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Mynd â'r Tŷ am Dro

by Cowbois Rhos Botwnnog

/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £7 GBP  or more

     

  • Compact Disc (CD) + Digital Album

    Includes unlimited streaming of Mynd â'r Tŷ am Dro via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    ships out within 28 days

      £12 GBP or more 

     

  • Record/Vinyl + Digital Album

    Dyddiad rhyddhau i'w gadarnhau

    Release date TBA

    Includes unlimited streaming of Mynd â'r Tŷ am Dro via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    shipping out on or around June 1, 2024
    edition of 200 

      £25 GBP or more 

     

  • Compact Disc (CD) + Digital Album

    Mynd â'r Tŷ am Dro (2024)
    Yn Fyw! Galeri Caernarfon (2023)
    IV (2016)
    Draw Dros y Mynydd (2012)
    Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn (2010)
    Paid â Deud [single] (2008)
    Dawns y Trychfilod (2007)

    Includes unlimited streaming of Mynd â'r Tŷ am Dro via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    ships out within 7 days

      £40 GBP or more 

     

  • Full Digital Discography

    Get all 7 Cowbois Rhos Botwnnog releases available on Bandcamp and save 40%.

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality downloads of Mynd â'r Tŷ am Dro, Yn Fyw! Galeri Caernarfon, Clawdd Eithin / Adenydd, IV, Draw Dros y Mynydd, Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn, and Dawns y Trychfilod. , and , .

    Purchasable with gift card

      £24 GBP or more (40% OFF)

     

1.
Mi ges i ‘ngeni mewn clawdd eithin, ac am eiliad, fi oedd Llŷn, dim ond am ennyd, rhyw bryd cyn hyn, ro’n i’n ysgeintiad glas a melyn, clyw ‘mhlentyndod ar hyd y caeau, clyw ‘mhen-blwydd i yn yr haf, clyw rhyw oes pan o’n i yna, yn dân yn y bryniau, yn dân ddiwedd haf. Wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn, a finna’n amau bod y byd ‘na wedi mynd, wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn. Mae’r plu yn heidio yndda’ i heno, a’u hofnau’n hefru trwy fy llaw, yn plygu ‘mraich, tra ‘mod i’n cysgu a’n danfon fy nghorff i draw dros y bae, a wnest ti ymestyn tuag ata’i, ynta ai ond y gwynt a drodd rhyw dro, a’m rhoi ar ddamwain yn dy freichia', a’m gadael i yna, hyd byth ar ben dy lôn? Wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn, a finna’n amau bod y byd ‘na wedi mynd, wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn, fel rhywbeth wedi’i adael ar ei hanner, rhywbeth a dorrodd yn dy law, rhywbeth wedi’i adael ar ei hanner. Wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn, a finna’n amau bod y byd ‘na wedi mynd, wn i ddim pam ‘mod i’n teimlo fel hyn.
2.
Faint sydd ‘di mynd? ‘Ddim bob dim, dw i’m yn meddwl.’ Faint sydd ar ôl, oes 'na rywun wedi dwyn y swyddfa bost? Ga’i warchod y tŷ, rhag ofn y daw ‘na rywun draw rhyw dro a mynd â fo? ‘Chos ro’n i am ddod draw ar ôl i mi ddod yn ôl, i roi bob dim mewn car a mynd i lawr at y môr, a deud: ‘Mi fydd bob dim yn iawn yn y diwedd, ac mi gei di fod yn llonydd eto.’ Ac os ca’i gyfle i fynd, cyn i bob dim droi’n rhywbeth arall, mi a’i â bob dim i lawr y lôn gul at y môr, eu dal nhw’n dynn a deud: ‘Mi fydd bob dim yn iawn yn y diwedd, ac mi gei di fod yn llonydd eto.’ Wyt ti’n gweld ble dw i’n mynd â chdi?
3.
Defodau 02:59
Mae ‘na rwbath wedi newid, ond alla i ddim dweud be, dw i ‘di troi’n rhywbeth newydd, wedi symud o fy lle, ac mae’r un a oedd ar ei gythlwng, a’n gollwng ei flawd lli’, mae o wedi ffoi, cyn i mi droi, ers symud atat ti. A dw i’n synnu ar sut mae’n digwydd, dim ond cwrdd a dyna ni, ond ti’n dewis dilyn llwybr wrth ymroi yn llwyr i’r lli. Dw i’n dysgu gin ti, cariad, yn dysgu mwy a mwy, dw i ‘di clymu rhuban ar y gwynt, Duw a ŵyr i bwy, a dwi’n disgwyl y bydda i’n deall pob un wefr sy’n symud trwy ein llinynnau ni, y rheiny sy’ yn canu trwy bob clwy’. A dw i’n teimlo’r holl ddefodau a oedd yn segur am rhy hir ‘mond am ennyd fach yn symud eto trwydda' i, a dw i’n teimlo’r peth yn digwydd, y cwrdd a’r ‘dyna ni’, ond ti’n dewis dilyn llwybr wrth ymroi’n llwyr i’r lli.
4.
Roedd heddiw’n ddiwrnod mor braf, dw i’n mynd i’w ladd o a’i rowlio fo mewn halen, mae gin i ffydd yn fy ngallu i halltu’r dydd a gwneud iddo fo bara am byth, ond neith o’m digwydd yn syth, maen nhw’n gorfod sychu a dim ond wedyn gawni hongian y gorau o do'r gegin. Ac ar y teils oddi tanynt ‘da ni’n dau’n mynd i’r gwynt yn ara’, yn gadael hoel yn yr halen lle’r oedd ein gwadna’. Heddiw’n ddiwrnod mor braf, ni’n dau yn y gasgen o siwgr a halen, ni’n dau’n trin y briw yn y cig byw, yn gwneud iddo bara am byth, ni’n dau’n leinio’r nyth, ni’n dau’n codi, a ni’n dau wedyn yn hongian y gorau o do'r gegin. Ac ar y teils oddi tanynt ‘da ni’n dau yn mynd i’r gwynt yn ara’, yn gadael hoel yn yr halen, yn gadael hoel yn yr halen.
5.
Adenydd 03:41
Yr un hen eiriau’n troi o hyd, blino trio eu dal ynghyd, a oeddet ti'n disgwyl mwy gen i, chdi a fu'n disgwyl hyn mor hir? Wel dw i yma'n fyddar ac yn fud, bron na alla i wneud dim byd, dim ond chwilio geiriau sy’ ddim am ddod, ella nad o’n nhw gin i erioed. Mae'r tŷ yn wag, a ti ar drai, be ddigwyddodd i ni’n dau? Ai’r holl ddyddiau hir a syn o wylio’n gras ni’n gwisgo’n ddim? Dw i'n chwilio hoel dy hanes di, ym mhob man y buom ni, chwilio llefydd sy' ddim yn bod, llefydd na fues i ‘rioed. O ran ni’n dau, ro’n i’n meddwl, waeth pa le’r ai, y bysa ti yno o 'mlaen i, ond erbyn hyn ti ddim, ti di mynd, fy ffrind, a dw i ar dân, o fflamau gwan i ddim byd ond lludw gwyn. Dw i’n teimlo rhan ohona’ i’n mynd, ar adenydd sydd bron â gwisgo’n ddim, a’r holl bobol y gallwn fod, i ti, ella nad rheini fydda i byth, i ti.
6.
Trosol 02:22
Bora braf, dim byd yn bod, jyst disgwyl car sydd byth am ddod, oeddet ti’n meddwl byswn i’n dy gyrraedd di mewn pryd? Cofio siarad rhyw bryd cyn i’n sgyrsia’ ni fynd yn betha’ prin, oes gen ti fwy i’w ddweud am hyn i gyd? ‘Chos mae pethau’n troi ar y rhod, ac os ti’m yn barod i fynd, ti dal yn gorfod dod. At ein gliniau yn y baw, dw i’m angen caib, ti’m angen rhaw, da ni’m angen llaw, waeth pa mor gry’, 'chos dw i ‘di gweld ein bod ni’n dau mor sownd fel na chawn ni’n dau wneud dim nes down o hyd i drosol sy’n ddigon mawr i’n symud ni. ‘Chos mae pethau’n troi hefo’r rhod, ac os ti’m yn barod i fynd, ti dal yn gorfod dod.
7.
Magl 04:00
Mi wnes i osod magl, a dal llwynog bach mor goch â’r haul yn y bora, ond do’n i ddim yn hela, do’n i ond yn chwarae bach bod yn heliwr yn rhywle, yn y Taiga, yn y gaea’. Datod traed a dwylo, clymu’r gwyll a’r gwawn yn becyn ar y set gefn. ‘Wyt ti’n gynnes?’ ‘Wyt ti’n iawn?’ ‘Ydi’r car yn glyd?’ Dw i’n gweld dy wyneb yn y drych, y trwyn bach yn s’nwyro wrth y ffenast, yn y bagiau a’r pecynnau gwag i gyd, yn gweld y byd am y tro cyntaf un, a’n treiglo’n syth, fel dŵr trwy ‘nwylo i. Nathon ni osod magl, a chael ein dal gan rywbeth bach, gweld ein hanes, ond am eiliad, yn mynd fel cysgod dros ei wyneb. Datod traed a dwylo, clymu’r gwyll a’r gwawn yn becyn ar y set gefn. ‘Wyt ti’n gynnes?’ ‘Wyt ti’n iawn?’ ‘Ydi’r car yn glyd?’ Dw i’n gweld dy wyneb yn y drych, y trwyn bach yn s’nwyro wrth y ffenast, yn y bagiau a’r pecynnau gwag i gyd, yn gweld y byd am y tro cyntaf un, a’n treiglo’n syth, fel dŵr trwy ‘nwylo i.
8.
Fe ddois i o wlad arall lle mae’r geiriau’n gân i gyd, a’r wawr yn fyw gan dwrw’r nos, a’r nod ar ei thraed o hyd: fe ddois i dros y gorwel heb undim yn fy sach ond pecyn o freuddwydion ac ambell gusan fach: fe ddois i cyn i’r awel ddymuno bore da, a chyn i haul y dwyrain droi’r môr yn hufen ia: fe ddois i fel dieithryn yn ôl i ngwlad fy hun, a cheisio ail adnabod y lliwiau yn y llun: ac o gyfeiriad arall o’r tu chwith fel tae, cyrhaeddais Memphis a Graceland a Boston yn y bae.
9.
Twrw pymtheg mil o ddynion, tân y ffwrnais, tiwn y ffydd, agor drysau i armagedon, pan mai’n ganol nos mai’n ganol dydd, dynion haearn dynion glo. Mae’r tipiau’n wastad ac yn wyrdd, a’r ffyrdd yn llawr o flodau, ond mae’r sawl sy’n dod a blodau blin yn fy nghofio i’n dodda er mwyn yr haearn er mwyn y glo. N’ad fi’n angof yn fan hyn, gwerthwyd fi am arian drwg, ond mae c’lonnau clên y ffermydd gwyn yn dal i fod fel colomennod yn y mwg, ac yn yr haearn ac yn y glo. Mynd i’r ardd i dorri pwysi, pasio rhosys cochion bras, pasio’r lafant, pasio’r lili, a thorri pwysi o ddanadl poethion cas, blodau haearn blodau glo

credits

released March 1, 2024

Cyfansoddwyd yr holl ganeuon gan Iwan Glyn Hughes, ac eithrio:

Cyrraedd Glan (geiriau Iwan Llwyd, alaw gan Iwan Glyn Hughes a Georgia Ruth Williams)
Blodau Haearn Blodau Glo (Twm Morys)

Trefniannau gan Cowbois Rhos Botwnnog


Iwan Glyn Hughes - Llais, gitâr drydan, gitâr acwstig, organ geg, allweddellau
Dafydd Rhys Hughes - Drymiau
Aled Wyn Hughes - Llais cefndir, gitâr fas, gitâr drydan, allweddellau
Branwen Haf Williams - Llais, piano
Llŷr Pari - Gitâr drydan
Euron Jones - Gitâr ddur bedal
Gethin Wyn Griffiths - Organ, piano drydan
Georgia Ruth Williams - Llais

Recordiwyd yn Stiwdio Sain, Llandwrog
Recordio ychwanegol yn Henwalia, Bethesda; Yr Hen Felin, Llanuwchllyn; a Stiwdio Glo, Caerdydd
Wedi’i pheiriannu gan Aled Wyn Hughes
Peiriannu ychwanegol gan Euron Jones, Osian Huw Williams, a Llŷr Pari
Wedi’i chymysgu a’i mastro gan Aled Wyn Hughes
Cynlluniwyd a chysodwyd y clawr gan Dafydd Rhys Hughes
Llun y clawr gan Anthony Pritchard

Cynhyrchwyd gan Cowbois Rhos Botwnnog

©️ Cyhoeddiadau Sbrigyn Ymborth 2024
Ac eithrio ‘Blodau Haearn Blodau Glo’ - ©️ Cyhoeddiadau Sain 1992

license

all rights reserved

tags

about

Cowbois Rhos Botwnnog Wales, UK

shows

contact / help

Contact Cowbois Rhos Botwnnog

Streaming and
Download help

Redeem code

Report this album or account

Cowbois Rhos Botwnnog recommends:

If you like Cowbois Rhos Botwnnog, you may also like: